What is a CT scan?
CT stands for ‘computed tomography’. It uses X-rays to produce a cross-sectional, or
‘slice’, image of the inside of your body.
Who will I see?
A small team of radiography staff will look after you during your visit and one of the
radiographers will carry out the scan.
Is it safe?
The amount of radiation used varies. The radiation related risks are very small and the risk
of missing a serious problem if you don’t have a CT scan may be much higher.
- If you are or you think you may be pregnant, you should tell us before your scan.
Do I need an injection?
Many CT scans involve injecting a substance (known as a ‘contrast medium’) into a vein to
increase the amount of information we can get from the scan. The injection may give you a
warm feeling around your body and a metal taste in your mouth. As with all injections,
there is a very small risk of an allergic reaction, ranging from minor reactions such as a
skin rash to the more serious such as an asthma attack. Our medical teams are trained to
deal with this if it happens. If you have reacted to any other injection given for a kidney X-
ray (IVP or IVU) or a previous CT scan, please let the radiographer know before the
injection takes place.
Before the scan
We will ask you some safety questions when you book your appointment, and you will
need to fill in a safety questionnaire that we will send you with your appointment letter.
- Please remember to bring this with you to your appointment.
- To help show different organs in the body, some preparation may be necessary, and if
necessary, your appointment letter will have information about this.
- You do not need to prepare specially for brain, neck or chest scans. We may ask you to
drink a certain amount of fluid or a special drink before having an abdomen or pelvis scan.
There are a few instructions that you need to follow before the scan:
- You should not eat or drink if you have been told not to (this will only apply for some
scans). If we need to, we will give you more details when you book your appointment.
- You should tell us if you are diabetic and taking metformin.
- You should tell us if you have any allergies or asthma or if you have reacted to any
other injection given for a kidney X-ray (IVP or IVU) or a previous CT scan
- You should tell us if you are pregnant or breast feeding.
- You should wear comfortable, loose clothing.
- You should let us know about any special needs you have (for example if you need
wheelchair access, you are hard of hearing, you have poor eyesight or you are
claustrophobic).
What happens during my appointment?
When you arrive you should go to the reception desk (please bring your appointment letter
which may have details of who to ask for).
The radiographer or another member of staff will meet you and explain the procedure to
you.
We will check your safety questionnaire (or ask you to fill one in if you haven’t already).
You will have the chance to ask any questions you have.
For some types of CT scans we will ask you to drink a special contrast drink up to an hour
before your scan.
We may ask you to change into a gown.
- If you need to change, your clothes and personal items will be kept in a secure place.
We may need to give you an injection, depending on the area that needs to be scanned.
We will take you into the scanning room and ask you to lie down on the scanner table.
We will move the table slowly so we can position the part of your body that is going to be
scanned under the scanner camera.
During the scan we may ask you to hold your breath or not swallow.
The radiographer operating the scanner will be able to see and hear you throughout the
procedure.
Will it be uncomfortable?
We will make you as comfortable as possible. The scan will not cause any pain. You may
be given an injection.
How long will it take?
- If you are given fluid to drink when you arrive, you may have to wait up to an hour before
having your scan. Most scans take around 45 minutes.
After the scan
- After your scan you can eat and drink normally.
- If you have had an injection, we will ask you to wait in reception for 30 minutes after your
examination in case you have a reaction to the injection.
- You can drive home afterwards and return to work if you need to.
Are there any side effects?
There are no known side effects from having a CT scan.
When will I get the results?
A radiologist will check the scan results shortly after your appointment and will send a
report to your doctor or consultant. At the time of your appointment you will be told how
long this should take.
If a follow up appointment is not already arranged, you will need to contact your doctor or
consultant to make an appointment to get your results.
Can I bring a relative or friend with me?
Yes but they will only be allowed to go into the examination room in special circumstances
(for safety reasons).
Children will not be allowed into the room while you are having the scan so you
need to make arrangements for them before you come to your appointment. Staff
are unable to assist.
Contacting us
- If you need any more information please contact us on the number given in your
appointment letter.
Beth yw sgan CT?
Ystyr CT yw ‘tomograffeg gyfrifiadurol.’ Mae’n defnyddio pelydrau-X i gynhyrchu delwedd drawsadrannol neu ‘sleisen’ o’r tu mewn i’ch corff.
Pwy fyddaf yn ei weld?
Bydd tîm bach o staff radiograffeg yn gofalu amdanoch yn ystod eich ymweliad, a bydd un o’r radiograffwyr yn cynnal y sgan.
A yw’n ddiogel?
Mae faint o ymbelydredd a ddefnyddir yn amrywio. Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymbelydredd yn fach iawn, ond gall y risg o fethu problem ddifrifol os nad ydych yn cael sgan CT fod lawer yn uwch.
Os ydych yn credu y gallech fod yn feichiog, dylech ddweud wrthym cyn eich sgan.
A oes angen pigiad arnaf?
Mae nifer o sganiau CT yn cynnwys chwistrellu sylwedd (sef yr hyn a elwir yn ‘gyfrwng cyferbynnu’) i’r wythïen i gynyddu faint o wybodaeth y gallwn ei chael o’r sgan. Gall y pigiad wneud i’ch corff deimlo’n gynnes a gwneud i chi flasu metel yn eich ceg. Fel pob pigiad arall, mae risg isel iawn o adwaith alergaidd - sy’n amrywio o adweithiau bach megis brech ar y croen i’r rhai mwy difrifol megis pwl o asthma. Mae ein timau meddygol wedi’u hyfforddi i ymdrin â’r achosion hyn os ydynt yn digwydd. Os ydych wedi cael adwaith i unrhyw bigiad a roddwyd ar gyfer pelydr-X o’r arennau (IVP neu IVU) neu sgan CT yn y gorffennol, rhowch wybod i’r radiograffydd cyn iddo roi’r pigiad.
Cyn y sgan
Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi pan fyddwch yn trefnu apwyntiad a bydd angen i chi gwblhau holiadur diogelwch y byddwn yn ei anfon atoch gyda’ch llythyr apwyntiad. Cofiwch ddod â’r holiadur hwn gyda chi i’ch apwyntiad.
- Efallai y bydd angen paratoi ychydig i helpu i ddangos organau gwahanol yn y corff. Bydd gwybodaeth am hyn yn eich llythyr apwyntiad os bydd angen gwneud hyn.
- Nid oes angen i chi baratoi ar gyfer sganiau i’r ymennydd, y gwddf neu’r frest. Efallai y byddwn yn gofyn i chi yfed hyn a hyn o hylif neu ddiod arbennig cyn cael sgan i’r abdomen neu’r pelfis.
Ceir rhai cyfarwyddiadau y mae angen i chi eu dilyn cyn y sgan:
Ni ddylech yfed na bwyta os ydym wedi gofyn i chi beidio â gwneud hynny (bydd hyn yn berthnasol i rai sganiau yn unig).Os oes angen, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad.
- Dylech ddweud wrthym os oes gennych glefyd y siwgr neu os ydych yn cymryd metformin.
- Dylech ddweud wrthym os oes gennych unrhyw alergeddau neu asthma, neu os ydych wedi cael adwaith i unrhyw bigiad arall a roddwyd ar gyfer pelydr-X o’r arennau (IVP neu IVU) neu sgan CT yn y gorffennol.
- Dylech ddweud wrthym os ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron.
- Dylech wisgo dillad cyfforddus a llac.
- Dylech ddweud wrthym os oes gennych unrhyw anghenion arbennig (er enghraifft os oes angen mynediad i gadair olwyn arnoch, eich bod yn drwm eich clyw, yn cael trafferth gweld neu os ydych yn glawstroffobig).
Beth sy’n digwydd yn ystod fy apwyntiad?
Pan fyddwch yn cyrraedd dylech fynd i ddesg y dderbynfa (dewch â’ch llythyr apwyntiad gyda chi a fydd â manylion o ran pwy i ofyn amdano o bosibl).
Bydd y radiograffydd neu aelod arall o staff yn cwrdd â chi ac yn esbonio’r broses i chi.
Byddwn yn gwirio eich holiadur diogelwch (neu’n gofyn i chi gwblhau un os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny).
Byddwch yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ar gyfer rhai mathau o sganiau CT, byddwn yn gofyn i chi yfed diod cyferbynnu arbennig hyd at awr cyn eich sgan.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi wisgo gŵn.
Os bydd angen i chi newid, caiff eich dillad a’ch eitemau personol eu cadw mewn man diogel.
Efallai y bydd angen i ni roi pigiad i chi – mae hyn yn dibynnu ar yr ardal y mae angen ei sganio.
Byddwn yn eich tywys i’r ystafell sganio ac yn gofyn i chi orwedd ar y bwrdd sganio.
Byddwn yn symud y bwrdd yn araf fel ein bod yn gallu sicrhau bod y rhan o’r corff sy’n mynd i gael ei sganio o dan y camera sganio.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddal eich anadl neu beidio â llyncu yn ystod y sgan.
Bydd y radiograffydd sy’n gyfrifol am y sganiwr yn gallu eich gweld a’ch clywed drwy gydol y broses.
A fydd yn anghyfforddus?
Byddwn yn sicrhau eich bod mor gyfforddus â phosibl. Ni fydd y sgan yn achosi poen. Efallai y rhoddir pigiad i chi.
Pa mor hir fydd hyn yn cymryd?
Os rhoddir diod i chi ei yfed wrth gyrraedd, efallai y bydd angen i chi aros awr cyn cael eich sgan. Mae’r rhan fwyaf o sganiau’n para oddeutu 45 munud.
Ar ôl y sgan
- Gallwch yfed a bwyta fel arfer ar ôl eich sgan.
- Os ydych wedi cael pigiad, gofynnwn i chi aros yn y dderbynfa am 30 munud ar ôl eich
archwiliad rhag ofn y cewch adwaith i’r pigiad.
- Gallwch yrru gartref ar ôl y sgan a dychwelyd i’r gwaith os bydd angen.
A oes unrhyw sgîl-effeithiau?
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw sgîl-effeithiau o gael sgan CT.
Pryd byddaf yn cael y canlyniadau?
Bydd radiolegydd yn gwirio canlyniadau’r sgan ar ôl eich apwyntiad ac yn anfon adroddiad at eich meddyg neu’ch meddyg ymgynghorol. Dywedir wrthych ba mor hir y dylai hyn gymryd yn ystod eich apwyntiad.
Os nad oes apwyntiad dilynol wedi’i drefnu eisoes, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddyg
neu’ch meddyg ymgynghorol i drefnu apwyntiad er mwyn cael eich canlyniadau.
A allaf i ddod â ffrind neu berthynas gyda mi?
Gallwch, ond mewn amgylchiadau arbennig yn unig y cânt fynd i’r ystafell archwilio (oherwydd rhesymau diogelwch).
Ni fydd plant yn cael mynd i’r ystafell pan fyddwch yn cael y sgan, felly bydd angen i chi wneud trefniadau ar eu cyfer cyn i chi ddod i’ch apwyntiad. Ni fydd staff yn gallu helpu.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni ar y rhif sydd ar eich llythyr apwyntiad os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Produced by the Clinical Imaging Facility, Institute of Life Science 2, Swansea University. The Facility joins the Prime Health network from 1 November 2026. All guides.